Croeso cynnes i wefan newydd Ysgol Y Berllan Deg ble ceir y wybodaeth ddiweddaraf am yr ysgol a’r holl fwrlwm sydd yn digwydd yma. Mae’r ysgol wedi datblygu a thyfu llawer ers ei sefydlu yn 1999 gyda 10 o ddisgyblion yn unig. Rydyn ni mewn adeilad parhaol ger Llanedeyrn ers mis Medi 2003 ac mae gennym erbyn hyn 454 o ddisgyblion.
Mae arwyddair yr ysgol, “Mae dyfodol yfory yn dechrau heddiw”, yn pwysleisio pwysigrwydd sicrhau bod pob disgybl yn yr ysgol hon yn cael y cyfle i ddatblygu i fod yn unigolion hyderus sydd yn meddu ar sgiliau eang i’w cynorthwyo ar eu taith bywyd. Ein bwriad yw creu naws gartrefol, ddiogel a hapus o fewn ethos Gymreig, lle rhoddir cyfle cyfartal i bob unigolyn ddatblygu hyd at eithaf ei botensial.
M. Phillips
Pennaeth
A very warm welcome to the new Ysgol Y Berllan Deg website where you will be able to get the latest information about our school and all the exciting activities which happen here. The school has developed and grown considerably since it was founded in 1999 with only 10 pupils. We have been in our permanent building near Llanedeyrn since September 2003 and we now have 454 pupils.
The school motto “Mae dyfodol yfory yn dechrau heddiw” (Tomorrow’s future starts today) shows how important it is to us to ensure that every pupil at this school has the opportunity to develop into confident individuals who have a range of skills to help them through the journey of life. Our intention is to create the atmosphere of a safe and happy family within a Welsh environment, where every pupil is given equal opportunity to develop to his or her full potential.
M. Phillips
Headteacher
Mae disgyblion Ysgol Y Berllan Deg Caerdydd yn ateb: Beth yw'r Gymraeg i fi? Mae'r ffilm fer yma yn dangos pwysigrwydd cael gweithgareddau Cymraeg i blant yng Nghaerdydd, yn enwedig i'r rhai o gartrefi hollol ddi-Gymraeg
We use cookies to track usage and improve the website.
Click here for more information.