Skip to content ↓
Eng

Amdanom Ni

Croeso

Croeso cynnes i wefan newydd Ysgol Y Berllan Deg ble ceir y wybodaeth ddiweddaraf am yr ysgol. Mae’r ysgol wedi datblygu a thyfu llawer ers ei sefydlu yn 1999 gyda 10 o ddisgyblion yn unig a rydyn ni mewn adeilad parhaol ger Llanedeyrn ers mis Medi 2003.

Mae arwyddair yr ysgol, “Mae dyfodol yfory yn dechrau heddiw”, yn pwysleisio pwysigrwydd sicrhau bod pob disgybl yn yr ysgol hon yn cael y cyfle i ddatblygu i fod yn unigolion iach, hyderus ac uchelgeisiol sydd yn meddu ar sgiliau eang i’w cynorthwyo ar eu taith bywyd. Ein bwriad yw creu naws gartrefol, ddiogel a hapus o fewn ethos Gymreig, lle rhoddir cyfle cyfartal i bob unigolyn ddatblygu hyd at eithaf ei botensial.

M. Phillips
Pennaeth