Skip to content ↓
Eng

Siarter Iaith

Beth yw’r Siarter Iaith?

Bwriad y Siarter Iaith yw ysbrydoli plant a phobl ifanc i ddefnyddio’r Gymraeg ym mhob agwedd o fywyd. Ar lawr y dosbarth, ar iard yr ysgol, wrth fwyta cinio, ar y bws adref, wrth chwarae gyda ffrindiau… gallwn weithio a mwynhau drwy’r Gymraeg bob dydd. Gallwn hefyd annog a chefnogi pob aelod o deulu’r ysgol, llywodraethwyr, staff cinio, glanhawyr, y gymuned leol a’n teuluoedd i ddysgu, defnyddio a mwynhau’r iaith Gymraeg!

Targedau 23 - 24

Yn ddiweddar rydym wedi ennill y wobr arian ac rydym wrthi yn gweithio yn frwdfrydig tuag at y wobr Aur.

Yn flynyddol rydym yn dathlu Diwrnod Shwmae Su’mae, Diwrnod Seren a Sbarc, Dydd Miwsig Cymru yn ogystal â Dydd Gŵyl Dewi ag unrhyw ddiwrnodau eraill sydd yn hybu Cymreictod ym mywyd dyddiol ein disgyblion.

Ein targedau eleni fydd i gysylltu fwyfwy gyda’r gymuned leol gan gynnwys cyd weithio gydag ysgolion lleol megis Llanedeyrn Primary ac Ysgol Bro Edern.