Skip to content ↓
Eng

Ysgol Noddfa

Ysgol Y Berllan Deg oedd yr ysgol gynradd cyfrwng Cymraeg gyntaf yng Nghaerdydd i ennill achrediad Ysgol Noddfa am greu amgylchedd croesawgar lle mae disgyblion, staff a’u cymunedau ehangach yn deall beth mae’n ei olygu i geisio noddfa. Rydym wedi cydnabod pwysigrwydd gwreiddio’r ethos hwn yn ein cwricwlwm, gan helpu i gefnogi addewid Caerdydd i fod yn Ddinas Noddfa.

 

Beth yw Ysgol Noddfa:

  • Lle sy'n meithrin diwylliant o groeso a diogelwch i bobl sy'n ceisio noddfa, gan gynnwys teuluoedd ceiswyr lloches a ffoaduriaid.
  • Addysgu cymuned yr ysgol gyfan am yr hawl ddynol i noddfa ac yn nodi dulliau ymarferol i ysgolion ddangos yr ymrwymiad hwnnw.
  • Meithrin empathi ac ymwybyddiaeth ryngddiwylliannol trwy hyrwyddo lleisiau a chyfraniadau pobl sy'n ceisio noddfa, annog dealltwriaeth o brofiadau pobl sydd wedi'u dadleoli a helpu i frwydro yn erbyn stereoteipiau.